Estudar no Estrangeiro
Da Vinci

COURSE OF Cymraeg a Sbaeneg

Cardiff University

Cardiff University (Cardiff)

University: https://www.cardiff.ac.uk/

Course: https://www.cardiff.ac.uk/study/undergraduate/courses/2019/welsh-and-spanish-ba

CYMRAEG
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
SBAENEG
Sbaeneg yw'r ail iaith fwyaf yn y byd o ran nifer ei siaradwyr. Mae mwy na 400 miliwn o bobl yn siarad Sbaeneg mewn mwy nag 20 o wledydd ledled y byd, a dyma un o’r ieithoedd mwyaf defnyddiol ym myd busnes a hamdden fel ei gilydd. Mae'n agor drysau i amrywiaeth bywiog ac amrywiol o brofiadau diwylliannol.
Mae Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd yn eich galluogi chi i astudio, dadansoddi a gwerthuso datblygiadau cyfredol ar draws y byd sy'n siarad Sbaeneg, yn ogystal â diwylliannau a gwerthoedd y gorffennol. Wedi ichi astudio Sbaeneg, byddwch chi’n barod i fanteisio ar y cyfleoedd eang sy’n agored i raddedigion yr iaith heddiw
Rydym ni’n cynnig Sbaeneg i fyfyrwyr lefel uwch a dechreuwyr. O ran caffael iaith, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu, llafar a gwrando drwy amrywiaeth o weithgareddau dysgu, a chan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau clyweledol.
Yn ogystal â'ch gwersi iaith, bydd cyflwyniad i hanes a diwylliant Sbaen yn ceisio darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudiaethau mwy arbenigol wrth ichi ddilyn eich cwrs. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn Sbaen neu mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg, yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau iaith.
Mae'n bwysig cofio nad yw astudio ieithoedd yn golygu astudio’r iaith a dim arall. Mae'n golygu edrych ar sawl agwedd o'r wlad a'i diwylliant, ei strwythurau cymdeithasol a’i sefydliadau, ei gwleidyddiaeth, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i sinema. Drwy astudio meysydd o'r fath rydych chi’n gallu cael dealltwriaeth well o ddiwylliant Sbaeneg a sut mae wedi esblygu dros y canrifoedd, gan ddatblygu i fod yr hyn ydyw heddiw.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.
Mae pob ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen bedair blynedd hon, bydd gennych hyfedredd iaith lefel uchel yn ogystal â dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol o lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes Cymreig a Sbaeneg.
Nodweddion nodedig
CYMRAEG
• y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
• modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
• ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
• y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd ichi drwy gydol eich gyrfa
• y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
• y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
• y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
SBAENEG
• modiwlau craidd sy’n gwarantu sylfaen gadarn i bawb, ond wedyn yn caniatáu, gyda chyngor gan eich tiwtor personol, ichi fireinio rhaglen a fydd fwyaf addas ar gyfer eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol
• llwybr at y radd hon i ddechreuwyr nad oes ganddynt Sbaeneg Safon Uwch
• y cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio neu’n gweithio mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith

Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)

Duration: 4 years

Study mode: Full-time

Qualification requirements: BBB-BBC (±15 PT)

Ver página em português

See more courses

Começa aqui a tua aventura académica no estrangeiro.

Preenche o formulário para receberes, sem compromisso, mais informações sobre o acesso ao ensino superior no estrangeiro.

DADOS PESSOAIS

Não preencheste nome
Não preencheste é...?
Não preencheste o telefone/telemóvel
Não preencheste o email
Não preencheste a localidade de residência

DADOS PESSOAIS

Não preencheste o ano de escolaridade
Não preencheste área de estudo
Não preencheste a média do ano anterior
Não preencheste a nota de Inglês do ano anterior

PREFERÊNCIAS

Área(s) ou curso(s) que gostarias de prosseguir nos estudos superiores

Não preencheste as áreas que gostarias de prosseguir nos estudos superiores

País ou países de preferência

Não preencheste os países de preferência

Outras observações


Aceito os Termos de Privacidade e consinto ser contactado e receber informação dos Ginásios Da Educação Vinci. (Ler aqui os Termos de Privacidade)